Philip Hill
Bydd angladd un o’r glowyr gafodd ei ladd yn ne Cymru y prynhawn yma.

Roedd Philip Hill yn un o bedwar o ddynion a gollwyd yng Nglofa Gleision yng Nghilybebyll, Pontardawe.

Daw ei angladd yn dilyn cynhebrwng un arall o’r glowyr, Charles Breslin, ddydd Mercher.

O fewn y flwyddyn ddiwetha’ fe gollodd Philip Hill ei fam a’i fab, ac mae’r angladd y prynhawn yma’n achlysur tu hwnt o anodd i’r teulu.

“Fel teulu rydan ni wedi wynebu sawl loes calon yn y deng mis diwetha’, yn colli Merle Hill, mam annwyl Philip,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Ac ym mis Mawrth fe brofon ni golled drist Simon, mab Phillip a brawd Lee a Kyla.

“Fel teulu cafodd ein bywydau eu cyfoethogi gan eu presenoldeb a rydym yn awry n ceisio dygymod â’u colli.”

Ychydig dros bythefnos yn ôl cafwyd trychineb yng Ngloddfa Gleision pan lwyddodd tri o lowyr i ddianc, ond bu farw pedwar.

Yn gynharach yn yr wythnos agorodd cwest i’r achos, ac mae Heddlu’r De yn parhau i weithio gyda’r Gweithgor Iechyd a Dioglewch i ymchwiliop i amgylchiadau’r marwolaethau.

Yn y cyfamser, mae’r gronfa i helpu teuluoedd y glowyr wedi derbyn cefnogaeth gyhoeddus sylweddol ac yn tua £200,000.

Mae llawer o bobol enwog wedi cyfrannu gan gynnwys Tywysog Cymru, aelodau o garfan Clwb Pêl-droed Abertawe a’r band roc y Manic Street Preachers.