Rhan o'r brotest (o wefannau'r protestwyr)
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gohirio penderfyniad tros ddrilio arbrofol am fath o nwy dadleuol yn ardal Llandŵ.

Fe fydd yr holl gynghorwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yn y penderfyniad gydag ymweliad â’r safle ar barc busnes lleol.

Maen nhw’n dweud eu bod eisiau ystyried beth fyddai effaith y cloddio ar fusnesau yno.

Protestwyr

Roedd yna dyrfa fychan o brotestwyr y tu allan i adeilad y cyngor neithiwr wrth i’r Pwyllgor Cynllunio drafod cais gan gwmni o Ben-y-bont ar Ogwr o’r enw Coastal Oil and Gas.

Maen nhw’n erbyn y drilio, sy’n cynnwys chwilio am nwy siâl a’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses ffracio i’w gasglu – mae honno wedi ei gwahardd mewn rhai rhannau o’r byd oherwydd llygredd.

Mae’n golygu chwistrellu dŵr i mewn i greigiau i’w chwalu nhw a rhyddhau’r nwy.

Croesawu

Mae’r protestwyr wedi croesawu’r gohirio gan ddweud ei fod yn rhoi mwy o amser iddyn nhw ddadlau eu hachos, ond maen nhw’n siomedig nad yw’r Cynulliad yn galw’r cais i mewn i’w ystyried eu hunain.

Maen nhw’n gwrthwynebu’r drilio arbrofol hefyd gan ddweud y bydd y sŵn a’r anhwylustod yn amharu ar drigolion lleol a busnesau.