Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff dyn yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr dros y penwythnos.

Cafodd y corff ei ganfod mewn ardal goediog ger Bryntion ar ddydd Sul (Ionawr 13).

Dyw’r corff ddim wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, meddai’r heddlu, ond maen nhw’n ychwanegu bod teulu Neil Cook, sydd wedi bod ar goll ers Ionawr 11, wedi cael gwybod am y datblygiad.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu a dyw’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.