Canolfan siopa Dewi Sant, Caerdydd
Bydd Lolfa Lên gyntaf Cymru yn agor ei drysau yng Nghaerdydd yr Hydref hwn gan y cwmni cenedlaethol, Llenyddiaeth Cymru. Am fis yn unig, bydd yr uned wag yn adran bwytai Eastside yng nghanolfan siopa Dewi Sant, yn cael ei drawsnewid i fod yn emporiwm llenyddol dros dro.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweini bwydlen flasus o ddigwyddiadau llenyddol drwy gydol mis Hydref yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, perfformiadau, gemau, gweithdai, sgyrsiau, darlleniadau a llawer mwy.

Bydd  Llenyddiaeth Cymru yn cynnal noson o gerddoriaeth a barddoniaeth ym mharti agoriadol y Lolfa Lên, lle bydd y beirdd-berfformwyr Aneirin Karadog a Clare Potter yn mynd i wir ysbryd y lleoliad ac yn gweini cerddi ar archeb nos Wener, 30 Medi am 6pm.

Bydd yr awdur Mike Church yn arwain gweithdai barddoniaeth syrcas i oedolion a phlant ar ddydd Sadwrn, 1 Hydref. Y dydd Sul canlynol bydd  Cyfnewidfa Lyfrau Llenyddiaeth Cymru yn cael ei lansio; bydd cyfle i gyfnewid llyfrau am rai gwell oddi ar silff lyfrau’r Lolfa Lên drwy gydol mis Hydref. Un o brif atyniadau’r rhaglen ddigwyddiadau fydd lansiad cynllun Young People’s Laureate for Wales ddydd Mawrth, 18 Hydref.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru:

“Mae cynllun Y Lolfa Lên  yn anhygoel o gyffrous i ni ac mae’n gyfle i’r holl gwsmeriaid yn y ganolfan siopa brysur gael blas ar ysgrifennu, darllen a chreadigrwydd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn sefydliad newydd sydd bob amser yn chwilio am ddulliau mentrus, newydd i hybu brwdfrydedd dros y gair llafar ac ysgrifenedig –  a dyna’n union yw’r Lolfa Lên.”