Mae undeb wedi taflu dŵr oer tros agoriad swyddfa yn y de gan rybuddio bod swyddi yn y fantol.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sydd biau’r swyddfa yn Nhrefforest, a gafodd ei hagor yn swyddogol ar ddydd Gwener (Ionawr 11).

Mae’r DWP yn dweud bod yr adeilad yn cynnig cyfle i staff fedru “datblygu”, ond mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi herio hynny.

Yn ôl y PCS, mae’r 1,700 o weithwyr a fydd yn gweithio yno wedi bod mewn swyddfeydd DWP yng Nghaerffili, Cwmbrân, Merthyr Tudful, Casnewydd a Gabalfa hyd yma.

Ac maen nhw’n honni bod y DWP wedi cyfaddef na fydd 600 o’r aelodau staff yma yn medru teithio i’r safle newydd. Mae hynny’n golygu bod eu swyddi yn y fantol, yn ôl y PCS.

“Bygwth swyddi”

“Mae’r DWP a’i phartneriaid yn ceisio rhoi’r argraff mae stori ‘newyddion da’ yw prosiect swyddfa Trefforest,” meddai Ysgrifennydd PCS Cymru, Shavanah Taj.

“Mewn gwirionedd mae’r prosiect yn bygwth swyddi cannoedd o staff DWP profiadol, a lles y cymunedau lle maen nhw’n gweithio ar hyn o bryd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r DWP am ymateb.