Mae grŵp ymgyrchu Dyfodol i’r Iaith wedi lleisio eu pryder yn ymwneud a’r “defnydd cynyddol” o’r Saesneg ar S4C.

I ddatrys y broblem, maen nhw’n galw am “ganllawiau cadarn” i sicrhau mai’r Gymraeg yn unig sy’n cael ei glywed ar y sianel.

Maen nhw’n codi’r cwestiwn a fyddai sianel BBC Wales, er enghraifft, yn fodlon bod yn sianel ddwyieithog, gan bwysleisio eu cred mai sianel Gymraeg ac nid dwyieithog yw Dyfodol i’r Iaith.

Yn ôl Eifion Lloyd Jones, llefarydd Dyfodol i’r Iaith ar ddarlledu, mae’r grŵp yn dymuno i S4C “roi cartref diogel i’r Gymraeg”.

Mwy o Saesneg 

“Mae presenoldeb cynyddol y Saesneg mewn rhaglenni yn tanseilio ei chenadwri fel Sianel Gymraeg ac yn rhwystr i fynegiant a chynrychiolaeth yr iaith,” meddai.

“Syndod y sefyllfa yw nad yw’n ymddangos fod polisi na chanllaw clir ynglŷn â’r defnydd o Saesneg mewn rhaglenni, hyd y deallwn o’n trafodaethau gyda’r penaethiaid.”

Er hynny, mae’n esgusodi’r “eithriad prin” lle bo’r Saesneg “yn anorfod” ar raglenni newyddion – ond dylai hynny fod ble mae’r cynnwys yn ddigon pwysig yn unig.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan S4C.

Canllawiau iaith S4C

Yn ôl dogfen canllawiau iaith S4C, “Amcan sylfaenol S4C yw darparu gwasanaeth teledu o safon uchel trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.”

Mae pwynt 1.2 yn datgan mai eu prif nod hefyd yw “darparu sianel Gymraeg a fydd yn cael ei mwynhau, ei gwerthfawrogi a’i defnyddio gan wylwyr o bob rhan o Gymru.”

Pan ddaw i’r defnydd o Saesneg, mae pwyntiau 2.5 a 3.1 yn dweud,

(2.5) “Dylai cynhyrchwyr fod yn ymwybodol o’r angen i arolygu a rheoli’r defnydd o eiriau Saesneg o fewn eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â’r safon sy’n briodol i’r rhaglen.”

(3.1)”Mae defnydd gofalus, dethol ac achlysurol o’r Saesneg yn medru ehangu rhawd ambell i raglen fel bod y rhaglen ynddi ei hun yn fwy cynhwysfawr a diddorol nag a fyddai fel arall.”