Mae llefarydd Diogelu’r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth brynu cŵn bach.

Y Nadolig yw un o’r cyfnodau prysura’ yn y farchnad gŵn ond mae angen gofal wrth brynu, meddai’r Cynghorydd Philip Hughes.

Daw’r rhybudd ar ôl i fridiwr cŵn anghyfreithlon o ardal Llandeilo gael ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi’i ohirio yn sgil ymchwiliad gan Adran Safonau Masnach y Cyngor.

Fe fydd yn rhaid i Dylan Huw Thomas, 59 oed, o New Inn, hefyd dalu £215,000 trwy orchymyn dan y Ddeddf Enillion Troseddol.

Cwsmeriaid wedi cysylltu

Roedd Llys y Goron Abertawe wedi cael clywed sut yr oedd Dylan Thomas wedi cymryd arno fod yn fridiwr wedi’i gofrestru ac wedi ffugio dogfennau.

Roedd nifer o gwsmeriaid wedi cysylltu â’r Cyngor Sir i fynegi pryder am gyflwr iechyd  cŵn yr oedden nhw wedi eu prynu ganddo.

“Dylai hyn fod yn wers i unrhyw un sy’n bridio cŵn – chaiff bridio a gwerthu heb drwyddedau a dogfennau priodol a heb ystyried lles y cŵn bach a’u mamau ddim ei oddef,” meddai Philip Hughes.

Y cyngor i bobol sy’n prynu cŵn bach yw gweld y ci bach a’r fam gyda’i gilydd yn y man bridio, gwneud yn siŵr bod dogfennau’n gywir a holi milfeddygon a’r cyngor lleol am y bridwyr.