Mae Cymry ymhlith gweithwyr y wasnaeth tan sydd wedi dod at eu gilydd o bob cwr  Brydain i greu Sengl Nadolig, gyda targed uchelegeisiol.

Enw’r grwp yw’r Fire Tones, a maen nhw wedi recordio’r glasur Nadoligaidd ‘Do They Know It’s Chrismtas?’ mewn ymgais  i gyrraedd brig y siartau Prydeinig.

Syniad y Diffoddwr Tan, Chirs Birdsell-Jones o’r Trallwng, oedd sefydlu’r grwp ac aeth ati i gysylltu gyda gwasanaethau tan ac achub ar draws Ynysoedd Prydain.

Daeth y newyddion i sylw Gwenan Hughes, Bethan Jones a Paul Scott o Wasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru, ac roeddynt yn awyddus i gymryd rhan.

“Profiad bythgofiadwy”

Cyn pen dim roedd y gan wedi cael ei recordio mewn stiwdio ym Mirmingham, ac mae Gwenan Hughes o Ystafell Reoli St. Asaff, wedi synnu gyda’r “sylw anhygoel.”

“Da’  ni wedi cael sylw gan Aled Jones, Siân Lloyd y ddynes tywydd ac wedyn cawsom ein gwahodd i fynd ar This Morning ar ITV”, meddai Gwenan Hughes sy’n 30 oed.

“Y targed ydi gwneud y mwyaf o bres a gallem i’r elusennau, a bonws fyddai cyrraedd rhif un yn y siartiau.”

“Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy ac roedd yn gyfle gwych i gwrdd ag aelodau staff o wasanaethau tân ac achub eraill yn ogystal â bod yn rhan o ymgyrch i godi arian i ddwy elusen haeddiannol iawn.”

Mi fydd y pres sy’n cael ei hel gan y Fire Tones yn cael ei roi tuag at Elusen y Diffoddwyr Tan a’r Elusen Band-Aid.

https://thefiretones.com/>