Carwyn Jones
Mae rhaglen lywodraethu “uchelgeisiol” Prif Weinidog Cymru wedi dod dan y lach gan yr wrthbleidiau sydd wedi cyhuddo’r rhaglen o fod yn “ddiystyr”.

Bu Carwyn Jones yn amlinellu sut y bydd y llywodraeth Lafur yn gweithredu ar eu maniffesto.

Ymysg y blaenoriaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru roedd rhoi mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc, sicrhau bod pawb yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf a chyflwyno archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed.

Un o flaenoriaethau’r rhaglen yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn  “yn fwy agored ac yn fwy atebol”.

Mae’n pennu blaenoriaethau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.

Mae’r rhaglen yn nodi’r camau y bydd y Gweinidogion yn eu cymryd, sut caiff cynnydd ei fesur a pha ganlyniadau y mae’r Llywodraeth am eu gweld i bobl Cymru. Caiff y rhaglen lywodraethu ei diweddaru’n flynyddol a chyhoeddir adroddiad cynnydd bob blwyddyn.

Beirniadu’r rhaglen

Ond roedd y Llywodraeth yn wynebu beirniadaeth am fethu a gosod targedau clir yn y rhaglen. Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bod y blaid Lafur wedi oedi cyn cyhoeddi eu cynlluniau a oedd yn “rhy annelwig”.

Dywedodd: “Rydan ni wedi aros 145 niwrnod ar gyfer y rhaglen lywodraethu. Fe fyddai rhywun yn disgwyl y gallen ni fod wedi cael darlun clir o’r hyn mae’r Llywodraeth yn gobeithio ei gyflawni… Ond does dim byd yma i ganiatau i ni  fesur llwyddiant y Llywodraeth. Mae’n jôc, a dweud y gwir.”

‘Agenda uchelgeisiol’

Dywedodd y Prif Weinidog:  “Mae’n Rhaglen Lywodraethu yn agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Mae’n troi’r maniffesto y cawsom ein hethol arno yn gamau gweithredu – ac mae fy llywodraeth yn benderfynol o’i chyflawni’n llawn.

“Byddwn yn canolbwyntio ar weithio er budd pobl, ar gydweithio i greu gwlad decach a mwy ffyniannus, ac ar greu cymdeithas lle mae cyfle i bawb wneud cyfraniad.

“Byddwn yn creu mwy o brentisiaethau er mwyn rhoi cychwyn gwell i bobl ifanc ym myd gwaith; byddwn yn cynnig archwiliadau iechyd newydd i bobl dros 50 oed ac yn canolbwyntio ar greu gymdeithas iachach; a byddwn yn cryfhau cymunedau ledled Cymru, gan ariannu 500 yn fwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

Mae’r ymrwymiadau allweddol yn cynnwys: sefydlu cronfa swyddi newydd i Gymru; gwella’r mynediad at wasanaethau meddyg teulu; ariannu 500 o swyddi cymorth cymunedol newydd; cynyddu gwariant rheng flaen mewn ysgolion;  dyblu nifer y plant sy’n elwa ar y rhaglen ‘Dechrau’n Deg’; cyflwyno Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd statudol, a ategir gan brofion darllen a mathemateg cenedlaethol; dechrau rhyddhau mwy o dir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy; llunio cynllun gweithredu gwrth-dlodi erbyn y flwyddyn nesaf a fydd yn dod â’r holl bolisïau datganoledig perthnasol ynghyd; cynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru; creu parthau cadwraeth morol newydd; pwyso am adolygiad annibynnol o S4C; a chyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd.

Dywedodd Carwyn Jones: “Byddwn yn adrodd am ein cynnydd bob blwyddyn, fel bod pobl yn gallu gweld yr hyn rydym wedi’i gyflawni a sut mae’r newidiadau hyn wedi gwella’u bywydau. Mae angen egni ac ymroddiad y wlad gyfan arnom – y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r gymuned fusnes. Os byddwn ni gyd yn uno yn yr ymdrech, fe awn ni ymhellach, yn gynt.”

Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod cyflwr yr economi wedi dirywio yn ddifrifol ers yr etholiad ym mis Mai, ac eto, roedd Llafur wedi glynu at yr un cynlluniau diuchelgais heb gydnabod o gwbl yr argyfwng wrth iddo waethygu.

Dywedodd fod rhaglen Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi bron i 5 mis wedi sefydlu’r llywodraeth, “ond y mae’n cynnwys yn bennaf ddatganiadau bras heb ddim manylion na thargedau.”

Meddai Ieuan Wyn Jones: “Roedd y rhaglen lywodraethu hon yn gyfle i’r llywodraeth hon ddeffro o’i thrwmgwsg a dangos fod yr amodau economaidd ofnadwy wedi eu sbarduno i weithredu. Gwaetha’r modd, collwyd y cyfle ac y mae’r Prif Weinidog wedi  cadarnhau unwaith eto ddiffyg gweithredu llwyr ei lywodraeth.

“Mae swyddi a busnesau yn cael eu colli bob wythnos yng Nghymru, ac eto mae’r llywodraeth fel petai wedi ei pharlysu’n llwyr, heb syniad sut i helpu.

“Bu’n rhaid llusgo’r rhaglen lywodraethu allan o  lywodraeth  Carwyn Jones – mae Plaid Cymru wedi pwyso ers wythnosau ar i hyn digwydd. Nawr fod gennym raglen lywodraethu, nid yw fawr mwy na chasgliad o ddatganiadau cyffredinol diystyr heb fanylion na thargedau.”

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC:

“Mae arnom angen gweithredu i helpu’reconomi ac y mae angen gweithredu rwan. Mae Carwyn Jones a’i lywodraeth wedi eistedd yn ôl ers wythnosau heb gydnabod o gwbl fod pethau’n gwaethygu bob wythnos. Rhaid i’r Prif Weinidog ddeffro a mynd ati i gymryd camau er mwyn diogelu pobl a busnesau rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn.

“Datblygiad sy’n peri pryder yn y rhaglen hon yw nad oes ymrwymiad yma i barhau gyda’r help parthed trethi busnes a roddwyd pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth. Mae hyn yn bryder pellach i’n cymuned fusnes sydd angen help ar yr adeg hon yn hytrach na baich trymach o broblemau.”