Mae Mark Drakeford wedi ei ethol yn arweinydd newydd ar y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid wedi curo Vaughan Gething ac Eluned Morgan yn y ras am y teitl, ac ef fydd darpar arweinydd y blaid tan ymddiswyddiad Carwyn Jones yr wythnos nesaf.

Ar dydd Mercher (Rhagfyr 12) mi fydd yn cael ei enwebu’n Brif Weinidog, a’n sgil hynny mae disgwyl iddo esgyn i’r swydd honno.

Cafodd enillydd y ras arweinyddiaeth ei gyhoeddi yn Stadiwm y Principality, Caerdydd, brynhawn heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 6).

Y canrannau 

Lwyddodd yr un o’r tri ymgeisydd i ennill yn y rownd gyntaf – hynny ydi, trwy ennill dros 50% o’r bleidlais. Felly, fe fu’n rhaid cyfrif nifer yr ail bleidleisiau a dderbyniodd bob un.

Yn y rownd gyntaf, fe sicrhaodd Mark Drakeford 46.9% o’r fôt; Vaughan Gething 30.8%; ac Eluned Morgan 22.3%. Yn unol â’r rheolau, roedd Eluned Morgan allan o’r ras wedi hyn.

Yn yr ail rownd, fe gafodd Mark Drakeford 53.9%, a Vaughan Gething 41.4%.

Y ras

Datganodd Carwyn Jones ym mis Ebrill y byddai’n camu o’r neilltu, a thros y misoedd diwethaf mae’r tri ymgeisydd wedi bod yn ymgyrchu am y swydd.

Ers dechrau’r ras mae Mark Drakeford wedi bod yn geffyl blaen, gyda mwyafrif o Aelodau Cynulliad, canghennau etholaethol, ac undebau yn ei gefnogi.

Ond mae’r arweinydd newydd wedi cael ei herio yn ystod pob cymal, ac mi ddenodd feirniadaeth am ei safiad llugoer tros ynni niwclear a chynnal ail refferendwm Brexit.

Yn dilyn ras a oedd yn ffyrnig ar adegau, bydd disgwyl i Mark Drakeford ddod ag undod i’r blaid yn ei swydd newydd.