Mae cynhyrchwyr, gwyddonwyr a rheoleiddwyr pysgod cregyn yn dod at ei gilydd heddiw (Rhagfyr 4) i ddatblygu’r syniad.

Mae cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor heddiw yn ttafod y synuad o ddatblygu a sefydlu ‘Canolfan Pysgod Cregyn’.

Bwriad y ganolfan fyddai darparu anghenion ymchwil ac arloesi yn y diwydiant.

Ym mis Awst eleni, cyhoeddwyd bod £2.8m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i sefydlu canolfan newydd i hybu diwydiant pysgod cregyn Cymru.

Cyfle

“Mae’r gweithdy agoriadol hwn yn dwyn ynghyd bobol i’r diwydiant, cynrychiolwyr o’r llywodraeth, asiantaethau a rheoleiddwyr ac ymchwilwyr academaidd i gydnabod cyfleoedd a chyfyngiadau yng nghyswllt cynhyrchu pysgod cregyn ledled Cymru,” meddai arweintdd y prosiect, yr Athro Lewis Le Vay o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.

Mae’r gweithdy yn “gyfle delfrydol i nodi a blaenoriaethu anghenion ymchwil a datblygu cydweithio newydd,” meddai.

Mae’n gobeithio bydd y Ganolfan yn gallu “darparu’r darnau sydd ar goll yn y jig-so, a gwireddu’r potensial, o’r diwedd” ac y bydd Bangor a’r ardal yn gallu elwa’n economsidd ac yn gymdeithasol o ddatblygu’r diwydiant.