Mae Aelod Seneddol o Gymru yn galw ar ei gyd-aelodau yn Nhŷ’r Cyffredin i gefnogi cytundeb Brexit Theresa May er mwyn sicrhau “ymadawiad trefnus” a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Glyn Davies, yr aelod Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, yn un o’r rheiny a fydd yn cefnogi’r cytundeb pan fydd yn cael ei gynnig i bleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf (Rhagfyr 11).

Er hyn, pe bai’r cytundeb yn methu â sicrhau cefnogaeth Aelodau Seneddol, dywed y Ceidwadwr y byddai’n galw ar y Prif Weinidog i “addasu” y cytundeb, cyn ei gyflwyno eto ar gyfer ail bleidlais yn y Senedd.

Bydd wedyn, meddai, yn galw am ymadawid o’r Undeb Ewropeaidd sy’n seiliedig ar drefniant tebyg i’r hyn sydd gan wlad fel Norwy â’r undeb.

Gwrthod – “camgymeriad anferthol”

“Dw i’n ymwybodol y gall Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn y Cytundeb Ymadael ar Ragfyr 11,” meddai Glyn Davies. “Bydd hyn yn gamgymeriad anferthol.

“Yn fy marn i, fydd gan y Prif Weinidog ddim dewis ond chwilio am ryw fath o newid, un bach neu beidio, a’i gyflwyno ar gyfer pleidlais arall yn y flwyddyn newydd.

“Os yw Aelodau Seneddol yn gwrthod “cytundeb” â’r Undeb Ewropeaidd, yna bydd yn rhaid i ni chwilio am fath o ymadawiad sy’n debyg i drefniant Norwy.

“Ond mae’n rhaid i ni sicrhau ymadawiad trefnus a’r Undeb Ewropeaidd, er lles dyfodol pob un ohonom.”