Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam fydd perchnogion newydd y Clwb Pel-droed ar ôl i’w cais i brynu’r clwb gael ei gwblhau.

Fe fydd yr ymddiriedolwyr yn cychwyn ar y dasg o redeg y clwb ddydd Mawrth. Roedd na bryderon yn gynharach yn y dydd na fyddai’r cais yn llwyddo  ar ôl i un o berchnogion y clwb, Geoff Moss, fygwth trafod gydag eraill os na fyddai’n cael blaendal erbyn 5pm.

Ond mewn datganiad ar y cyd cyhoeddwyd bod “cytundeb ariannol addas wedi ei gyrraedd.”

Mae’n dilyn misoedd o ansicrwydd ynglyn â dyfodol y clwb. Roedd bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi bod mewn trafodaethau gyda’r clwb ers pedwar mis ar ol i’r clwb gael ei roi ar werth ar ddechrau’r flwyddyn.

Fe fydd yr ymddiriedolwyr yn rhedeg y clwb o dan gytundeb trwyddedig wrth aros am gymeradwyaeth yr awdurdodau pêl-droed.

‘Newyddion gwych’

Dywedodd Is-gadeirydd Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam, Peter Jones, bod y cyhoeddiad yn “newyddion gwych”.

“Dyma’r peth gorau all fod wedi digwydd i’r clwb – rydan ni am fynd â pel-droed yn ôl i’r cefnogwyr.

“Dy’n ni ddim wedi cael llawer o amser i feddwl ble fyddwn ni’n dechrau ond yn sicr fe fyddwn ni’n gweld beth sydd ei angen, a beth sydd ddim ei angen. Y peth pwysica yw sicrhau bod y clwb yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cael ei redeg o fewn ei gyllideb.”

Ychwanegodd: “Rydan ni wrth ein boddau gyda’r penderfyniad – rhaid diolch i’r cefnogwyr sydd wedi ein cefnogi ni ar hyd y ffordd.”