Mae arweinydd newydd Plaid Cymru yn cymharu ei gyfrol newydd o ysgrifau ac areithiau i faniffestio ar gyfer Cymru annibynnol.

Y Lolfa sy’n cyhoeddi Wales – The First and Final Colony gan Adam Price, lle mae’n trafod gwleidyddiaet, hanes a diwylliant Cymru. Mae hefyd yn trafod ei syniadau am ddyfodol llewyrchus  i’r genedl.

“Ges i fy magu yng nghysgod helyntion y glowyr yn 1984 – helyntion a newidiodd fy naliadau gwleidyddol hyd heddiw,” meddai Adam Price.

“Mae mynd o’r tŷ cyngor i’r Tŷ Cyffredin, ac o Harvard i Gaerdydd, yn llwybr anghyffredin, ac rydw i nawr yn wynebu her fwyaf fy ngyrfa wleidyddol – arwain y mudiad cenedlaethol.

“Ond mae fy neges i a neges Plaid Cymru i bobol Cymru yn un syml: ‘Gall Cymru’,” meddai wedyn.

“Fel y dyn agored hoyw cyntaf i arwain y blaid hon, ac unrhyw blaid arall yng Nghymru, rydw i’n arweinydd modern, cynhwysol ar gyfer Cymru fodern, gynhwysol.

“Rydw i’n hyderus y gallwn adeiladu dyfodol newydd ar gyfer Cymru newydd. Nid y Blaid Lafur fydd yn ysgrifennu’r bennod hon. Nac ychwaith ddeiliaid neuaddau marmor ysblennydd Whitehall a Westminster.

“Ond, yn hytrach, caiff ei hysgrifennu yn ein siopau a’n strydoedd, yn ein tafarndai a’n clybiau rygbi, yn ein cartrefi a’n calonnau ni fel cenedl.”