Mae Cyngor Wrecsam yn dweud ei fod yn gwrthod tynnu arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg o fewn y sir i lawr, er gwaethaf galwadau gan ymgyrchwyr iaith.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bu’n rhaid i ymgyrchwyr lleol osod sticeri ‘Ildiwch’ ar 80 o arwyddion ‘Give Way’ ledled y sir y penwythnos diwethaf, ar ôl i’r cyngor fethu â darparu rhai dwyieithog.

Maen nhw hefyd wedi cyhuddo’r cyngor o weithredu’n anghyfreithlon trwy gadw’r arwyddion i fyny, gan fynd yn groes i Safonau’r Gymraeg.

Ond dadl Cyngor Wrecsam yw nad oes rheidrwydd arnyn nhw i gael gwared ar yr arwyddion, gan eu bod nhw wedi cael eu gosod cyn i’r Safonau ddod i rym yn 2016.

Dim rheidrwydd

“Rydan ni’n deall bod angen i holl arwyddion Ildiwch newydd neu rai sydd yn cael eu hailosod gydymffurfio â’n Safonau Iaith,” meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, sy’n aelod o Gabinet Cyngor Wrecsam.

“Fodd bynnag, nid oes gofyn i’r cyngor ddisodli’r arwyddion a osodwyd cyn cyflwyno Safonau Iaith Gymraeg ym Mawrth 2016 ar unwaith, ac fe fyddai unrhyw ailosod yn digwydd pan fo’r arwyddion presennol angen eu hailosod.

“Yn yr achosion hynny lle mae angen ailosod arwyddion oherwydd problemau traul neu ddifrod, byddwn wrth gwrs yn sicrhau bod unrhyw arwyddion fydd yn cael eu hailosod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg uwchben y Saesneg.”