Mae apêl i gasglu arian ar gyfer teuluoedd y pedwar glowr fu farw ym mhwll glo Gleision yng Nghwm Tawe, wedi cyrraedd £200,000, meddai Peter Hain heddiw.

Bu farw Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, ar ôl i ddŵr lenwi’r pwll lle roeddan nhw’n gweithio yng Nghilybebyll, ger Pontardawe.

Wrth annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd eu llefarydd ar Gymru bod y cyfraniadau tuag at yr apêl wedi bod y tu hwnt i’w ddisgwyliadau.

Bu’n canmol y rhai hynny oedd wedi cyfrannu mor hael at yr apêl gan ddweud y bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng teuluoedd y pedwar glowr.

Dywedodd bod yr ymateb i’r drasiedi yn dangos gwerthoedd y blaid Lafur yn y fro Gymraeg.

Daeth ei sylwadau wrth iddo gyflwyno Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones i annerch y gynhadledd.