Mae angen i ni “werthu Cymru yn well” er mwyn annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Sayed.

Mae’n credu bod angen gwneud hynny er mwyn sicrhau bod pobol ifanc o Gymru – ac ar draws y byd – yn dewis astudio mewn prifysgolion Cymreig.

“Mae angen i ni geisio ennyn pobol o Gymru i astudio yng Nghymru a rhoi incentive iddyn nhw aros fel ein bod yn gallu adeiladu Cymru fel cenedl,” meddai wrth golwg360.

“‘Dyn ni byth eisiau gweld sefyllfa ble rydyn ni’n dweud wrth fyfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu mynd i Loegr, neu’r Alban, neu dramor.

“Ond beth rydyn ni eisiau sicrhau yw bod yna ryw fath o gyd-destun lle mae … pobol ifanc yn meddwl ei fod yn iawn, ac yn deilwng, ac yn ysbrydoledig iddyn nhw aros yng Nghymru.

“A hynny, gan fod safon ein prifysgolion ni yn dda.”

Portffolio

Cafodd Bethan Sayed ei phenodi yn llefarydd Plaid Cymru ar addysg ôl-16, sgiliau ac arloesedd ar Hydref 19.

Yn unol â’i phortffolio, mae hi’n gyfrifol am addysg bellach, addysg uwch, addysg gydol oes, sgiliau, prentisiaethau, gwyddoniaeth, technoleg, digidol ac arloesedd.