Mae grŵp sy’n bwriadu ‘dad-ddofi’ ardal o’r Canolbarth, wedi amddiffyn eu penderfyniad i gyflwyno ceffylau gwyllt o wlad Pwyl i gefn gwlad Cymru.
Erbyn hyn mae prosiect ‘Coetir Anian’ wedi rhyddhau chwech o geffylau Konik i’w safle 350 erw ym Mwlch Corog ger Machynlleth, gan ddadlau eu bod yn fwy naturiol ‘wyllt’ na rhywogaethau Cymreig.
A bwriad y grŵp yw y bydd y ceffylau yma yn bwyta’r porfa arw – glaswellt y gweunydd – ar yr ucheldir yno, gan alluogi i goed a phlanhigion eraill dyfu.
Mae ‘Coetir Anian’ wedi cael eu beirniadu am beidio â chyflwyno ceffylau gwyllt Cymreig ar y safle, gydag un ffermwr yn argymell Merlod y Carneddau.
Rhesymeg
Mewn neges i golwg360 mae llefarydd ar ran ‘Coetir Anian’ yn esbonio bod y Konik yn ddisgynnydd agos i’r tarpan – cyndaid hynafol y ceffyl modern – a dyna pam cawson nhw eu dewis.
“I ni mae’r dewis o frid yn dibynnu’n bennaf ar ei agosrwydd at y ceffyl gwyllt gwreiddiol,” meddai’r llefarydd.
“… Y brid gyda’r nodweddion sy’n cydweddu yn agosaf â’r tarpan yw’r Konik … Dylwn beidio ag ystyried y Konik yn frid ‘Pwylaidd’.”
Mae’r llefarydd yn nodi bod ‘Coetir Anian’ wedi ystyried cyflwyno ceffylau Merlod Exmoor – merlod Seisnig – a Merlod Mynydd Cymreig gan gynnwys Merlod y Carneddau.
Yn ôl y grŵp, mae Merlod y Carneddau “yn gymysgedd o fridiau domestig iawn, gan gynnwys y ceffyl Arabaidd”, ac mae’n ymddangos bod hynny wedi dylanwadu ar y penderfyniad terfynol.