Mae cynllun Brexit Theresa May yn “gam tuag at y cyfeiriad iawn i ffermwyr Cymru”, yn ôl pennaeth undeb NFU Cymru.

Mae Llywydd yr Undeb, John Davies, yn dweud bod y ddogfen yn “galonogol”, a bod y Deyrnas Unedig “gam yn agosach” at sicrhau masnach ddirwystr â’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae’n “falch” bod y cynllun arfaethedig yn caniatáu estyniad i’r ‘cyfnod pontio’ – cyfnod wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd pan fydd rheolau’r cyfandir dal ar waith.

Ond, mae’n ategu na fydd modd masnachu ag Ewrop yn yr un modd “byth eto” wedi Brexit, a bod angen dal ati i drafod â’r undeb.

Pontio

“Er fy mod yn croesawu’r cynlluniau ynghylch dyfodol ein perthynas economaidd ag Ewrop, amcan yw hyn mewn gwirionedd,” meddai John Davies.

“Gan nad oes sicrwydd eto, mae’n bwysig bod pawb sydd ynghlwm â’r broses yn trafod yn barchus yn ystod y cyfnod pontio er mwyn gwireddu’r amcan.”