Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cwestiynu safle Prif Weinidog Cymru ar gysylltiadau gwleidyddol Prydain â chwmni sy’n cefnogi “cyfundrefn farbaraidd” Sawdi Arabia.

Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi dros filiwn o bunnoedd i gwmni amddiffyn Raytheon sydd â safle yng Nglannau Dyfrdwy ac sy’n cydweithio â Sawdi Arabia yn y rhyfel yn Yemen.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i dargedu’r wlad ble mae miloedd o bobol – yn cynnwys gwragedd a phlant – wedi cael eu lladd.

Mater o heddwch

“Ddydd Sul, mewn seremoni yn y Senedd i goffau dioddefwyr rhyfel, fe wnaethoch chi a minnau addo, ac rwy’n dyfynnu ‘ymdrechu i sefyll dros bopeth sydd yn creu heddwch’” meddai Adam Price wrth Carwyn Jones.

“Felly, o barch tuag at yr addweid honno, ydych chi’n barod i addo na fydd arian Llywodraeth Cymru yn mynd i gwmni sy’n cyflenwi arfau yn uniogyrchol i Sawdi Arabia tra bod gwrthdaro gwaedlyd yn parhau?”

Ymatebodd Carwyn Jones drwy ddweud nad yw’n ymwybodol “o unrhyw gwmni sydd wedi derbyn arian yn y synnwyr hwnnw. Nid ydym wedi cysylltu yn unrhyw modd gyda llywodraeth Sawdi Arabia”.

Cwmni Raytheon yng Nghymru

Mae gwybodaeth o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau yn “cadarnhau bod gweithrediadau Raytheon yng Nghymru yn ymwneud yn sylweddol a chyflwyno cannoedd o deithiau awyr i deyrnasau daear i filwyr Sadwi Arabia”, meddai Adam Price.

Mae peilotiaid Saudi Arbia hefyd eisoes wedi bod yn cael hyfforddiant yn safle RAF Fali yn Ynys Môn.

Ymatebodd Carwyn Jones trwy ddweud fod arweinydd Plaid Cymru wedi “codi cwestiwn pwysig ynglyn â Raytheon” a’i fod yn mynd i gwestiynu’r cwmni wedi iddo “sefydlu beth yw’r cysylltiad” y cwmni a Sawdi Arabia.