Mae dynes a gafodd ei hanafu yn ystod ymosodiad yn Llanbedr Pont Steffan yr wythnos ddiwethaf wedi marw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Bont yn y dref am tua 6yh nos Iau (Tachwedd 8), a chafodd y ddynes ei chludo yn syth i’r ysbyty.

Yn fuan wedi’r digwyddiad, cafodd pedwar dyn sy’n gysylltiedig â’r gymuned Bwylaidd eu harestio.

Mae un dyn, 40, yn parhau yn y ddalfa, tra bo dyn, 27, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, a dau ddyn arall – 31 a 37 – wedi’u rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.