Mae llywydd yr Wyl Cerdd Dant wedi croesawu pobol Cymru gyfan i’r digwyddiad yn Ysgol y Moelwyn heno… gan eu holi yn gellweirus, “Be cadwodd chi?”

Dyma’r tro cyntaf i’r wyl ymweld â thref Blaenau Ffestiniog ers ei sefydlu ganol y 1940au, ac roedd Arwel Gruffydd yn rhyfeddu at hynny.

Yn ei araith rymus o dawel, fe gyfeiriodd yr actor a’r cerddor sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, at yr angen i amddiffyn pob un o’r celfyddydau er mwyn, yn y pen draw, gadw’r iaith Gymraeg.

“Dw i’n falch iawn o fy ardal,” meddai Arwel Gruffydd, “a dw i’n falch iawn o’r traddodiad cerddorol yma. Cerddoriaeth werin, cerddoriaeth boblogaidd, a cherdd dant.

“Ond yn fwy na hynny, rydan ni hefyd yn gallu ymfalchïo yn rhai o gewri’r iaith, fel y diweddar Athro Gwyn Thomas, un o feirdd gorau erioed yr iaith, a’r Dr Meredydd Evans…

“Ges i fy hyfforddi gan Gwenllian Dwyryd,” meddai Arwel Gruffydd wedyn, “ac o fynd i’w chartref am wersi, roedd ei hantîcs yn ogystal â ‘rhywbeth’ arall yn gwneud i mi deimlo ei bod hi’n arbennig.

“Tydi pobol fel y rhai dw i wedi’u henwi ddim yn glanio yma o nunlle… maen nhw’n rhan o draddodiad a llinach o berthyn, ac mae hynny’n bwysig.”

Iaith heb ddiwylliant yn dda i ddim

Mae’n bwysicach nag erioed, mewn cyfnod o dlodi economaidd ac o ansicrwydd gwleidyddol, fod y celfyddydau ar gael i bawb, meddai Arwel Gruffydd.

“Dim ond yr wythnos ddiwetha, roedd gweinidog yn llywodraeth Prydain Fawr yn dweud y dylai’r celfyddydau fod ar gael ar brescripsiwn…

“Eto, mae llai o gyfleoedd i blant a phobol ifanc ddysgu chwarae offerynnau, ac mae llai o fyfyrwyr yn dewis cyrsiau cerddoriaeth… dw i’n gwybod mai nid penderfyniadau ysgolion nac athrawon ydi hynny…

“Mi ddaw yna amser eto pan fydd hi’n bwysig i ninnau afael yn ein diwylliant, achos does yna ddim pwrpas cadw iaith fel rhywbeth mewn amgueddfa, heb fedru gwneud dim byd efo hi.”

Mae ‘gwahanol’ yn beth da

Mewn byd sy’n ceisio annog pawb i ymddwyn a bod yn debyg i’w gilydd, mae Arwel Gruffydd yn dweud bod angen dathlu yr hyn sy’n wahanol mewn byd unffurf.

“Mae bod yr un fath, a chymhathu, yn bethau sy’n cael eu hannog,” meddai, “ond mae yna bethau y dylen ni fod yn falch ohonyn nhw.

“Mae ganddon ni ein traddodiad a’n hanes, sydd ddim yn well na neb arall yn y byd, ond sy’n bwysig i’w cadw.

“Nid rhywbeth i’w switshio on ac off ydi traddodiad.”