llai na mis i fynd nes fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn cael ei gyhoeddi, bydd papurau pleidleisio yn dechrau cael eu hanfon i aelodau ar lawr gwlad heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 9).

Tri ymgeisydd sydd yn y ras, yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford; Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan; a’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

A bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ragfyr 6, rhai dyddiau cyn i’r arweinydd a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, gamu o’r neilltu – bydd yn ildio’r awenau ar Ragfyr 11.

Ar Ragfyr 3 bydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben.

Y ras

Mae Mark Drakeford wedi bod yn geffyl blaen ers dechrau’r ras, gyda mwyafrif o’i gyd-Aelodau Cynulliad, Etholaethau, ac undebau yn ei gefnogi.

Er hynny mae Vaughan Gething wedi llwyddo i ennill cefnogaeth undeb dylanwadol y GMB, ac mae’r Blaid Gydweithredol wedi ochri ag ef hefyd.

Mae arolwg barn ddiweddar gan ITV yn awgrymu bod Eluned Morgan yn ffefryn ymhlith cefnogwyr Llafur – dyw cefnogwyr ddim o reidrwydd yn aelodau llawn sy’n medru bwrw pleidlais.