Mae cwmni nwyddau diwydiannol sy’n cyflogi tua 220 o bobol yn Llanelli wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau eu ffatri yn y dref.

Daeth y cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 6) fod y cwmni rhyngwladol o’r Almaen, Schaeffler, yn bwriadu cau ei safleoedd yn Llanelli a Plymouth o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Maen nhw’n dweud bod yr ansicrwydd ynglyn â Brexit yn un ffactor tros y penderfyniad i ail-leoli’r gwaith yn yr Unol Daleithiau, Tsieina, De Corea a’r Almaen.

Mae’r cwmni’n cyflogi dros 1,000 o weithwyr yng ngwledydd Prydain, ac mae lle i gredu y bydd 500 o swyddi’n cael eu heffeithio wrth gau safleoedd Llanelli a Plymouth.

“Rhaid cynllunio”

“Mae angen i fusnes rhyngwladol adolygu sefyllfa’r farchnad yn rheolaidd, ac anelu at wella ei berfformiad mewn gwahanol ranbarthau,” meddai pennaeth y cwmni yn Ewrop, Juergen Ziegler.

“Mae’r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu sefyllfa go iawn y busnes. Ond, rydym yn parhau’n ymrwymedig i gadw rhai gweithgareddau yng ngwledydd Prydain – lleoliad sy’n bwysig iawn i ni.

“Dyw Brexit ddim yn un ffactor penodol y tu ôl i’r penderfyniad y maen rhaid i ni ei wneud ar gyfer marchnad y Deyrnas Unedig, ond mae wedi cyflymu’r broses o gynllunio ar gyfer senarios cymhleth.”