Mae grŵp o bobol leol yn bwriadu troi hen eglwys mewn pentref ger Llanbedr Pont Steffan yn ganolfan gymunedol.

Fe gaeodd Eglwys Sant Sulien ym mhentref Silian ei drysau am y tro olaf bron i ddwy flynedd yn ôl oherwydd bod y gynulleidfa wedi lleihau, a rhesymau eraill yn ymwneud â chynnal a chadw’r adeilad.

Ond ers hynny, mae menter gymunedol wedi llwyddo i dderbyn prydles 25 mlynedd gan yr Eglwys yng Nghymru, mewn cam sy’n cael ei ystyried yn un “unigryw”.

Y bwriad yw creu canolfan a fydd yn cynnwys arddangosfa o greiriau hanesyddol yr eglwys a lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Tristwch

Mae Menter Silian, sy’n gyfrifol am y prosiect, yn cynnwys tua dwsin o aelodau, gyda bron pob un ohonyn nhw’n byw yn yr ardal leol.

Yn ôl Eryl Evans, un o’r aelodau hynny, yr hyn a’u hysgogodd i gychwyn y prosiect yw’r ffaith nad oes yna le i’r gymuned gyfarfod yn Silian bellach.

“Fe gaeodd yr ysgol fach yn Silian yn yr 1970au, ac mae’r siop a’r swyddfa’r post wedi hen gau, a does dim tafarn yma,” meddai wrth golwg360.

“Ry’n ni’n clywed am bobol yn symud i mewn i’r pentref a dydyn ni ddim yn nabod ein gilydd achos does unman i gwrdd.

“Ry’n ni’n teimlo’n drist hefyd, mewn ffordd, fod adeilad mor brydferth yn mynd ar ei waethaf.”

Canolfan i’r gymuned gyfan

Mae’r fenter wedi derbyn cyllid o’r grant cymunedol Cynnal y Cardi a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Er nad yw cyflwr yr eglwys wedi “gwaethygu lot” ers iddi gau, meddai Eryl Evans, mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar hyn o bryd er mwyn gweld pa waith sydd angen ei wneud.

Mae’r fenter hefyd yn y broses o gasglu syniadau gan bobol leol, a bydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal yng nghlwb rygbi Llanbedr Pont Steffan yr wythnos nesaf (dydd Iau, Tachwedd 15) ar gyfer hynny.

“Mae’r ochr hanesyddol yn bwysig iawn i’r eglwys, ond mae’n rhaid iddo fod yn fwy na hynny,” meddai.

“Beth rydyn ni’n gobeithio ei wneud yw tynnu’r seddi mas, ac wedyn defnyddio’r rhan yna ar gyfer pethau cymdeithasol fel ioga, cinio i’r henoed neu jyst rhywle i gwrdd.

“Mae cwpwl o bobol hefyd wedi dweud y bydden nhw’n lico gweld mast ffôn symudol lan ´na, achos does dim signal yn y pentref.

“Efalle, sen ni’n gallu cael Broadband, y bydd yna le wedyn i bobol fynd i wneud eu gwaith – ac efalle cael cornel bach i bobol gael rhenti fel swyddfa.”