Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo wedi tân mewn fflatiau uwchben siop wag yng nghanol dinas Casnewydd.
Dechreuodd y tân uwchben y Money Shop yn Commercial Street toc cyn 2.30am y bore ma.
Cafodd criwiau o 11 gorsaf dân eu galw yno. Roedd y tân wedi lledu i lawr cyntaf ac ail yr adeilad.
Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru fod y tân yn llosgi’n ffyrnig erbyn iddyn nhw gyrraedd.
Diffoddwyd y tân toc cyn 5.30am ac roedd pob un o drigolion yr adeilad yn saff ac yn ddianaf.
Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn ymchwilio ar y cyd i’r hyn ddigwyddodd.