Mae seiclwr wedi ei anafu yn ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad â charger Aberdulais.

Mae’r heddlu yn galw am lygaid-dystion ar ôl i’r dyn lleol 47 oed wrthdaro â Jaguar X-type glas tua 5pm ddydd Gwener ar y B4434 Ffordd Dulais Fach.

Aethpwyd a’r seiclwr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ac mae mewn cyflwr sefydlog ond difrifol.

Roedd dynes leol y tu ôl i olwyn y Jaguar, meddai’r heddlu. Maen nhw eisiau siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd, ac unrhyw un stopiodd i helpu.

Caewyd y ffordd am tua thair awr wrth i’r heddlu ymchwilio.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 01792 456999.