Mae pobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru bedair blynedd yn iau ar gyfartaledd na rhywun sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yn Llundain, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad yn awgrymu fod pobol sy’n prynu tai am y tro cyntaf yng Nghymru, yr Alban a gogledd Lloegr yn ifancach na gweddill y Deyrnas Unedig.

Yn yr ardaloedd rheini 28 yw oed cyfartalog prynu tŷ am y tro cyntaf, o’i gymharu â 32 yn Llundain, meddai’r Halifax.

Selby yn Swydd Efrog sydd â’r prynwyr ifancaf, yn 25 oed, tra bod rhywun yn 34 ar gyfartaledd cyn prynu ei dŷ cyntaf yn Harrow, Llundain.

Roedd Pen y Bont ar Ogwr yng Nghymru hefyd ar waelod y rhestr. Mae rhywun sy’n prynu tŷ yno am y tro cyntaf yn 26 oed ar gyfartaledd.

Dywedodd y Halifax fod oed prynu tŷ am y tro cyntaf yn adlewyrchu prisiau tai, ond hefyd sut y mae cyflogau sydd ar gael yn cymharu â’r prisiau rheini.

Mae oed cyfartalog prynu tŷ wedi codi i 29 ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, cynnydd o un flwyddyn yn unig ers 1983 er gwaetha’r cynnydd mewn prisiau.

Ond dywedodd Halifax eu bod nhw wedi gweld cynnydd mawr mewn cymorth gan rieni er mwyn talu blaendal ar dŷ yn ystod yr un cyfnod.

Yn ôl Cyngor y Benthycwyr Morgeisio mae 84% o’r rheini sy’n prynu eu cartref cyntaf yn cael cymorth i dalu’r blaendal erbyn hyn, o’i gymharu â 34% yn 2005.