Mae dyn 51 oed mewn cyflwr difrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad mewn tafarn ym Mhenfro.

Mae lle i gredu bod y dioddefwr wedi cerdded o dafarn y Watermans Arms yn y dref am tua 1yb ddydd Mercher (Hydref 31) i gyfeiriad Olivers View trwy Glos Talacharn a Heol Golden Hill. Cafodd ei ddarganfod yn anymwybodol yn y fan honno toc cyn 1:30yb.

Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.