Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r bachgen tair oed fu farw mewn digwyddiad yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin brynhawn dydd Sul.

Bu farw Evan Lloyd Williams mewn eiddo yn dilyn gwrthdrawiad, ac mae ei deulu’n cael cefnogaeth gan yr heddlu. Roedd wedi’i enwi’n lleol ddydd Mawrth.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu iddyn nhw gael eu galw i eiddo yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng cerbyd 4×4 a phlentyn.

Mae ymchwiliad yr heddlu ar y gweill, ac maen nhw’n cydweithio â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd llefarydd nad yw’r teulu am wneud sylw, a’u bod wedi gofyn am “lonydd i alaru’n dawel”.