Mae un o golofnwyr cylchgrawn Golwg wedi codi cwestiynau am werth buddsoddi £2.75 miliwn o arian cyhoeddus yng ngwersylloedd yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.

Yn ôl Gwilym Owen mae angen i Lywodraeth Cymru ofyn “pam fod cyn lleied o blant difreintiedig yn gallu manteisio ar gyfleusterau’r Canolfannau”.

Daw’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru o gronfa ‘Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif’ Llywodraeth Cymru, ac fe gafodd y gwariant ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

Wrth hyrwyddo’r gwario ar y gwersylloedd, dywedodd yr Urdd: “O blith y rheiny a ymwelodd â’r Canolfannau yn ystod y tair blynedd ddiwetha’, roedd 26% yn dod o blith y 20% o gymunedau mwyaf Difreintiedig Cymru.”

Ond mae Gwilym Owen yn dweud bod hon yn “frawddeg a ddylai fod wedi sbarduno’r Ysgrifennydd Addysg i holi’n fanylach pam fod cyn lleied o blant difreintiedig yn gallu manteisio ar gyfleusterau’r Canolfannau?

“Ai plant y dosbarth canol sydd unwaith eto yn cael y fantais a hynny am fod costau gwyliau a chyrsiau’r Urdd mor uchel fel na all plant y dosbarth gweithiol ystyried cynnig am le?

“Yn y pen draw, onid gwell fyddai hi i Lywodraeth Cymru gynnig yr arian, sydd ganddi yng nghyllideb Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, i’r ysgolion a’r disgyblion hynny a fyddai’n dymuno manteisio ar gyrsiau’r Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn?”

Yr wythnos hon mi fyddai wedi costio £352 i blentyn Ysgol Gynradd dreulio saith noson yng Nglan Llyn, a’r pris yn cynnwys gweithgareddau a bwyd.

Mae golwg360 wedi gofyn i Kirsty Williams ac Urdd Gobaith Cymru am ymateb.