Mae ymgyrchwyr o Japan wedi bod yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad yn y Senedd, i drafod goblygiadau pŵer niwclear.

Mae’r grŵp yn dod o Fukushima – rhanbarth lle ffrwydrodd gorsaf bŵer – ac yn cynnwys yr Athro Megumi Sakamoto o Brifysgol Fukushima, a Ayumi Fukakusa o Gyfeillion y Ddaear Japan.

Hyd yma mae’r ymgyrchwyr wedi cwrdd â Leanne Wood, Mark Drakeford, Adam Price, Siân Gwenllian a Neil McEvoy.

Mae’n debyg fod y grŵp wedi ymweld â’r Wylfa – safle arfaethedig gorsaf bŵer newydd – yn Ynys Môn ddechrau’r wythnos.

Tywysydd

“Wnaethon ni drafod sawl mater gan gynnwys y cynnydd mewn lewcemia ymysg plant sy’n byw o gwmpas gorsafoedd bŵer,” meddai Cian Ciaran, y cerddor sy’n tywys yr ymwelwyr.

“Rhaid i’r astudiaethau yma gael eu hystyried yn ystod unrhyw ymgynghoriad ar brosiect yr Wylfa, a gwariant arian cyhoeddus ar y datblygiadau anferth yma.”