Mae Banc Datblygu Cymru wedi cyfrannu £156m at yr economi yn ei blwyddyn lawn gyntaf, meddai.

Fe gafodd ei lansio yng ngwesty’r Exchange Hotel yr amser yma y llynedd i lenwi’r bwlch cyllido rhwng y cyllid sydd ei angen ar fusnesau a’r hyn mae’r farchnad yn ei ddarparu.

Ers hynny, mae wedi buddsoddi £72m mewn 344 o fusnesau – cynnydd o 24% ar berfformiad Cyllid Cymru, ei ragflaenydd, yn ei flwyddyn olaf.

Mae hyn wedi denu £84m mewn buddsoddiad preifat gan fuddsoddwyr sy’n cynnwys y Wealth Club, HSBC Ventures a Wesley Clover.

Mae’r banc hefyd wedi lansio rhwydwaith angylion busnes newydd, Angylion Buddsoddi Cymru a Dirnad Economi Cymru, sy’n gydweithrediad ymchwil gydag Ysgol Fusnes Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

‘Cynnydd da’

Mewn datganiad, dywed Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley bod blwyddyn gyntaf Banc Datblygu Cymru “wedi dangos cynnydd da”.

“Mae hyn yn gwneud Cymru yn lle deniadol i fusnesau micro a chanolig i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau, cryfhau a thyfu,” meddai wedyn.

“Ein blaenoriaeth yw parhau i gynyddu’n graddfa tra’n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gwych i’n cwsmeriaid.”