Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori pobol sy’n derbyn galwadau ffug neu amheus i roi’r ffôn i lawr “ar unwaith”.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod trigolion sy’n byw yn ardaloedd Castellnewydd Emlyn, Aberteifi a Llandysul wedi derbyn galwadau ffug yn ddiweddar.

Mae’r heddlu’n dweud bod y galwyr wedi ceisio cymryd manylion personol a banc y trigolion, a hynny wrth esgus eu bod nhw’n galw o gwmnïau fel Sky, BT neu hyd yn oed yr adran dreth.

“Peidiwch â pharhau â’r sgwrs”

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n derbyn galwadau ffug oddi wrth gwmnïau i roi’r ffôn i lawr ar unwaith,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Peidiwch â pharhau’r sgwrs â nhw, trosglwyddo manylion personol nac anfon arian atyn nhw.

“Yr unig adeg y dylech chi alw’r cwmni yn ôl yw pan fo’r rhif sydd gennych yn un diogel.”