Mae Plaid Cymru’n dweud bod 2,000 o bobol wedi ymuno gyda hi yn y pythefnos diwethaf, gan olygu bod ganddyn nhw dros 10,000 o aelodau.

Ar ôl ethol Adam Price yn arweinydd newydd yn ei chynhadledd yn Aberteifi bythefnos yn ôl, fe roddodd Plaid Cymru’r cyfle i bobol ymaelodi am gyfnod am ddim.

Cyn hynny roedd gofyn i aelodau dalu £3 y mis i’r coffrau. Ond fydd dim rhaid i aelodau newydd ddechrau talu’r £3 misol tan y flwyddyn nesaf.

Cynnydd hanesyddol

Yn ôl y Blaid, dyma’r “cynnydd wythnosol mwyaf yn hanes Plaid Cymru”.

“Mae’r cynnydd anhygoel yn ein haelodaeth yn dangos bod pobl wedi blino ar wleidyddiaeth y gorffennol,” meddai Adam Price, “ac am weld Llywodraeth Plaid Cymru yn arwain ar adeiladu’r wlad hunanhyderus y gwyddom gallwn ni fod.

“Mae ein neges yn un syml: Gall Cymru. Gallwn fod yn hyderus, gallwn fod yn ffyniannus, gallwn fod yn Gymry ac yn Ewropeaidd, gallwn fod yn annibynnol.

“Mae rhywbeth yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru a gall bawb fod yn rhan ohoni. Trwy ymuno â Phlaid Cymru, gall bawb weithio i lunio dyfodol ein cenedl.

“Rydym ar ein ffordd ac yn gwybod ein bod ni’n gallu ennill Cymru Newydd gyda’i gilydd.”