Mae ymchwiliad yng nghymoedd y de i 26 achos o fabis yn cael eu geni yn farw, neu yn marw yn fuan ar ôl cael eu geni.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf, sy’n gwasanaethu tua 300,000 o bobol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, yn cynnal adolygiad o enedigaethau a fu rhwng mis Ionawr 2016 a mis Medi 2018.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 43 o achosion lle roedd canlyniad yr enedigaeth yn “anffafriol”, sy’n cynnwys baban yn cael ei eni’n gynnar, yn rhy fach neu yn sâl.

“Rydym wedi mynd yn ôl ac yn edrych ar bob un o’r achosion hyn yn fwy manwl i gael gwybod os oedd yr holl gamau gweithredu priodol yn cael eu cymryd ar y pryd,” meddai’r bwrdd iechyd mewn datganiad.

A bellach, mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, am gynnal “ymchwiliad allanol annibynnol” o waith y Bwrdd Iechyd, a hynny oherwydd “difrifoldeb y sefyllfa”.

Penodi mwy o staff

Mae’r bwrdd iechyd yn mynnu eu bod nhw eisoes wedi cymryd camau i gryfhau eu gwasanaethau, sy’n cynnwys adroddiadau mwy amserol sy’n nodi risgiau a pha feysydd sydd angen eu gwella.

Maen nhw hefyd, medden nhw, wedi “atgyfnerthu’r gweithlu” trwy benodi rhagor o staff arbenigol a 15 o fydwragedd ychwanegol.

“Rydym bron wedi cwblhau’r broses gyda nifer fechan o adolygiadau achos i gael eu cwblhau,” meddai’r bwrdd iechyd.

“Bydd unrhyw wybodaeth bellach sy’n codi o’r broses hon yn cael ei rhannu’n llawn â’r teuluoedd dan sylw a byddwn yn darparu cymorth ychwanegol ac unrhyw iawndal fel y bo’n briodol.”