Mae Cymraes o Gaerfyrddin wedi cael gwobr arbennig am wneud gwisgoedd i gymeriadau rhai o ffilmiau mwyaf Hollywood.

Lindy Hemming wnaeth y gwisgoedd ar gyfer ffilmiau fel Wonder Woman, triawd The Dark Knight, y ffilmiau Harry Potter, ffilm Casino Royale James Bond a Paddington.

Cyhoeddwyd ym Mharti Enwebion BAFTA Cymru neithiwr (Dydd Iau, Hydref 4) mai Lindy Hemming fydd yn derbyn Tlws Siân Phillips.

Dyma dlws  sydd wedi ei rhoi i Rhys Ifans, Ioan Gruffydd, Ruth Jones a Michael Sheen yn y gorffennol.

Ennill Oscar

Daw Lindy Hemming o Gaerfyrddin ac mae hi eisoes wedi cael ei henwebu am BAFTA ac wedi ennill Oscar am ei gwaith ar y ffilm Topsy-Turvy.

Caiff ei hanrhydeddu gan BAFTA eleni am ei chyfraniad arwyddocaol at wneud ffilmiau yn rhyngwladol.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau sylweddol Lindy Hemming a’i chyfraniad enfawr at amrywiaeth o ffilmiau”

Cynhelir seremoni’r BAFTAS ar 14eg Hydref eleni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.