“S4C wedi colli ethos cefen gwlad” meddai Ifan Tregaron

Diweddarwyd  
Ifan Gruffydd yn chwarae rhan 'William' yn Nyth Cacwn

Ifan Gruffydd yn chwarae rhan ‘William’ yn Nyth Cacwn

Mae un o ddigrifwyr enwocaf Cymru yn dweud bod S4C “wedi colli ethos cefen gwlad”, wrth iddo nodi 30 mlynedd ers creu ei gomedi sefyllfa ei hun a gafodd ei gwrthod gan y sianel ar ôl dim ond un gyfres.

Mae’r mis hwn yn dynodi 30 mlynedd ers i Ifan Gruffydd ac Euros Lewis fynd ati i ysgrifennu Nyth Cacwn, a oedd wedi’i lleoli ar fferm yng ngorllewin Cymru.

Wrth gymharu cyfnod sgrifennu’r gyfres â heddiw, mae’r digrifwr o Dregaron yn dweud bod rhaglenni comedi sefyllfa a dychan tebyg wedi mynd “ar goll” ar ein sianel genedlaethol erbyn hyn. Mae hefyd yn dweud bod hiwmor cefn gwlad ddim i’w glywed cymaint ar y sgrin bellach, er bod ysgrifenwyr yn dal i fod o fewn y Clybiau Ffermwyr Ifanc.

“Ro’n i’n ffodus yn fy nghyfnod i,” meddai Ifan Gruffydd wrth golwg360. “Roedd S4C newydd ddechre ac roedd gyda chi gwmnïe annibynnol – llawer ohonyn nhw.

“Roedd gyda chi bobol hefyd a oedd, efalle, gyda mwy o ethos cefen gwlad, ac roedd gyda chi bobol oedd yn mynd allan i wrando ar bobol ac i glywed pobol. Roedd pobol yn cael eu pigo i fyny fel’ny, achos fel’ny ges i fy mhigo i fyny.”

“Tapo miwn i ryw ffynnon”

Dim ond un gyfres o Nyth Cacwn a gafodd ei darlledu ar S4C, ac er i sgript am ail gyfres gael ei pharatoi, ni chafodd ei chomisiynu gan y sianel.

Er i Ifan Gruffydd deimlo’n “grac” tros hynny ar y pryd, mae’n dweud bod y rhifynnau a gafodd eu darlledu yn dal i fod yn boblogaidd, fel petai cymeriadau fel ‘William y Gwas’, ‘Einon’ a ‘Delyth’ – ac hyd yn oed ‘Caradog y Ceiliog’ – wedi “tapo miwn i ryw ffynnon”.

“Mae yna gymaint o bobol yn dod lan ata i o hyd,” meddai. “Mae’n anhygoel cymaint o blant sy’n dod lan ata’ i’n gweud llinelle ac yn gofyn shwd mae Caradog y Ceiliog ac yn y blaen…

“Roedd e i bob oedran, ac mae wedi profi hynny. Roedd pob oedran o bobol, bydden i’n dweud, yn y tŷ yn Nyth Cacwn, ac roedd gwahanol genedlaethe yn gallu eistedd a gwrando arno fe.

“Un o’r pethe gore ddwedodd rhywun wrtha i unwaith am Nyth Cacwn oedd: ‘ro’n i’n teimlo bo fi bob wythnos yn dod atoch chi ar y ffarm ac yn gweld beth oedd yn digwydd ar y ffarm.’

‘Roedd yna rhyw dabŵ teledu wedi’i dorri yn fan’na cyn bod rhywun yn gallu gweud ʾna, ondife…”

Noson Nefi Bananas

Bydd Noson Nefi Bananas yn cael ei chynnal yn Theatr Felin-fach nos fory (Gwener, Hydref 5).

Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlledu dwy bennod o’r gyfres Nyth Cacwn, ynghyd â sesiwn lle bydd y digrifwr, Cennydd Owen Jones, yn holi’r actorion Ifan Gruffydd a Gwyneth Hopkins.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed