Mae dyn 31 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn arall mewn tân yng ngwesty Ty Belgrave yn Aberystwyth.
Bu farw Juozas Tunaitis yn y digwyddiad ar Orffennaf 25.Roedd yn gweithio fel swyddog diogelwch tân ym mhrifysgol y dref. Mae ei deulu wedi cael gwybod am y cyhuddiadau, ac maen nhw wedi diolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith.
Mae Damion Anthony Harris o Lanbadarn Fawr wedi’i gyhuddo o’i lofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol a bwriadol i unigolyn arall.
Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Aberystwyth drwy gyswllt fideo fory (dydd Iau, Hydref 4).
Bydd y cwest i farwolaeth Juozas Tunaitis yn cael ei agor ddydd Iau.