Mae Eluned Morgan wedi ymuno â’r ras i fod yn arweinydd Llafur Cymru, a hynny jyst cyn i’r enwebiadau gau heddiw (dydd Mercher, Hydref 3).

Mark Drakeford a Vaughan Gething yw’r ddau arall fydd yn cystadlu i ennill yr hawl i olynu’r arweinydd a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford a Vaughan Gething oedd yn y ras tan y diwrnod olaf un, ond sicrhaodd Gweinidog y Gymraeg ddigon o bleidleisiau yn y pen draw i daflu ei het i’r cylch.

Roedd Carwyn Jones eisoes wedi awgrymu y byddai’n barod i’w chefnogi er mwyn cael enw merch ar y papur pleidleisio, ac mae’n ymddangos bellach iddo wneud hynny.

Bydd y bleidlais yn agor ddydd Gwener, Tachwedd 9, a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau, Rhagfyr 6. Fe fydd Carwyn Jones yn camu o’r swydd ar Ragfyr 12.