Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn lansio ymgyrch newydd heddiw (dydd Mercher, Hydref 3) yn annog pobol i gael brechiad yn erbyn y ffliw.
Bydd y brechlyn ar gael am y tro cyntaf eleni ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd a phlant 2-3 oed.
Bydd staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio hefyd yn gymwys.
Perygl
“Y gaeaf diwethaf roedd 2,680 o gleifion gyda ffliw wedi’i gadarnhau mewn ysbytai – 192 mewn unedau gofal dwys,” meddai Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Yn ogystal â’r effaith ar yr unigolion hyn, mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd ar adeg brysur o’r flwyddyn.
“Mae pobol â chyflyrau cronig neu systemau imiwnedd gwan dros ddeg gwaith yn fwy tebygol o ddioddef canlyniadau difrifol ffliw ac rydym am weld mwy fyth o bobol yn cael eu hamddiffyn eleni.”
Brechlyn am ddim
Fe gafodd mwy na 820,000 o frechlynnau ffliw eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru y llynedd.
Y grwpiau o bobol a fydd yn gallu derbyn brechlyn am ddim eleni fydd:
- Plant oed cynradd a fydd yn gymwys ar gyfer brechlyn trwyn, yn ogystal â phlant 2-3 oed;
- Staff mewn cartrefi gofal sydd mewn cysylltiad rheolaidd â thrigolion sy’n gallu cael brechlyn ffliw am ddim;
- Merched beichiog;
- Pobol sydd â chyflyrau iechyd hirdymor;
- Pobol dros 65 oed.