Mae cwmni ceir Toyota, sy’n cynhyrchu injanau ar safle yng Nglannau Dyfrdwy, wedi rhybuddio y gallai eu gwaith ddod i ben am rai misoedd pe na bai cytundeb tros Brexit.

Mae hynny’n golygu y gallai swyddi fod yn y fantol, gyda’r cwmni’n cyflogi hyd at 3,000 o weithwyr rhwng y safle yn y gogledd a’r un yn Swydd Derby.

Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Marvin Cooke, gallai oedi wrth symud cydrannau ar draws Ewrop niweidio’r cwmni wrth iddyn nhw geisio cwblhau eu gwaith yng Nghymru a Lloegr.

Mae cwmnïau ceir Jaguar Land Rover, BMW a Honda eisoes wedi mynegi pryderon tebyg.

Methu â darogan y dyfodol

Dywedod Marvin Cooke wrth y BBC, “Os ydyn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sydyn a bod un rhan o’r gadwyn gyflenwi ar goll, fyddwn ni ddim yn gallu cynhyrchu ceir yn y cyfnod hwnnw.

“Allwn ni ddim darogan a fyddai effaith Brexit caled yn para oriau, dyddiau, wythnosau neu fisoedd, felly allwn ni ddim darogan a fyddai’r fath oedi’n parhau am oriau’n unig, dyddiau neu fisoedd.

“Yn y gorffennol, os oedd problem fach o ran cerbyd neu wrth y Twnnel, gallen ni fod wedi’i goresgyn, gan y cafodd effaith fechan. Mae hyn yn ddigynsail, yn hollol ddirgel.”

Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Greg Clark yn mynnu nad yw’r posibilrwydd o ddod i gytundeb cyn Brexit ar ben yn llwyr.