Bron i 750 mlynedd ers i Lyfr Du Caerfyrddin gael ei ysgrifennu, fe fydd y dref hanesyddol yn lansio llyfr newydd heddiw, ac yn gobeithio y bydd i hwnnw cymaint o ddylanwad a’i ragflaenydd.

Bydd ‘Llyfr Gwyn Caerfyrddin’ yn cael ei agor am y tro cyntaf am 5.15pm yn y dref heddiw, er mwyn dathlu, a chofnodi, Diwrnod Heddwch Rhyngwladol 2011.

Mae’r llyfr ar hyn o bryd yn wag, ond fe fydd ei dudalennau yn agored i gael eu llenwi’r prynhawn yma gan bobol sy’n awyddus i’w arwyddo a datgan eu hawydd am heddwch rhyngwladol.

Un o’r rhai sydd ynghlwm wrth y digwyddiad yw’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Cymdeithas y Cymod, sy’n dweud ei bod hi’n “hanfodol ein bod ni’r Cymry’n parhau i weithio dros heddwch a chymod.

“Mae mwy a mwy o sylw yn cael ei roi i ryfel,” meddai Guto Prys ap Gwynfor, sy’n dweud bod effeithiau’r anghydfod rhyngwladol i’w gweld mor lleol ag yn Aberporth yng Ngheredigion, lle mae “profion gydag awyrennau rhyfel di-beilot dros ran eang o Orllewin Cymru.”

Nid rhyfel yw’r ateb bob tro

Yn ôl un arall o’r trefnwyr, Alun Lenny, mae’n bwysig dathlu’r Diwrnod Heddwch Rhyngwladol, “er mwyn atgoffa pobol am y ffordd arall.”

“Does dim angen i ni droi at ryfel a militariaeth am bob ateb,” meddai wrth Golwg 360, “mae hynny ond yn parhau â’r cylch o ddial.”

Wrth siarad â Golwg 360, dywedodd Alun Lenny bod y sefyllfa ers erchyllterau 11 Medi 2001 wedi profi nad militariaeth yw’r ateb.

“Bu farw 3,000 o bobol ar Medi’r 11 – ond yn y rhyfel sydd wedi dilyn hwnnw ma’ bron i chwarter miliwn wedi cael eu lladd,” meddai.

“Mae 75 o bobol wedi cael eu lladd i bod un person a fuodd farw ar Fedi’r 11 – dyna’r ratio. A’r gwirionedd yw ’dy’n ni ddim agosach at y lan nawr.”

Bydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas y Cymod yn teithio o Aberporth i Gaerfyrddin heddiw, gan gerdded trwy rai trefi a phentrefi ar y ffordd.

Mae disgwyl i’r criw gyrraedd Caerfyrddin ar gyfer seremoni agor ‘Llyfr Gwyn Caerfyrddin’ am 5.15pm tu allan i Neuadd San Pedr, lle bydd Maer y dref, Tom Defis a’r Prifardd Mererid Hopwood yn annerch y dyrfa, cyn i bobol gael cyfle i arwyddo’r llyfr.