Bydd Cyngor Sir Conwy yn casglu biniau holl gartrefi’r sir unwaith bob pedair wythnos o heddiw (dydd Llun, Medi 24) ymlaen, mewn ymgais i annog mwy o drigolion i ailgylchu eu gwastraff.

Yr awdurdod lleol yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newid hwn mewn gwasanaeth, a daw wedi blwyddyn o arbrawf mewn rhai ardaloedd o’r sir.

Yn ôl y cyngor, mae deunyddiau sy’n cael eu claddu mewn safleoedd tirlewni yn costio £1.6m i’r gymuned bob blwyddyn.

Ond roedd y cyfnod o arbrofi, a gafodd ei gyflwyno ddiwedd 2016, wedi gweld cynnydd o 14% mewn lefelau ailgylchu, a 31% yn llai o wastraff yn cael eu claddu mewn safle tirlenwi, medden nhw.

Newid

Bydd y newid mewn gwasanaeth yn golygu y bydd holl drigolion Sir Conwy yn derbyn:

  • casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd;
  • casgliad wythnosol ar gyfer deunyddiau fel papur, cerdyn, caniau, erosolau, ffoil, poteli, tybiau a chynwysyddion plastig, a batris;
  • casgliad bob pythefnos ar gyfer gwastraff gwyrdd, tecstilau, a gwastraff nwyddau trydanol bychain;
  • casgliad sbwriel bob pedair wythnos;
  • casgliad wythnosol ar gyfer clytiau babanod a chynhyrchion anymataliaeth i’r rheiny sydd ei angen.