“Nid dyma’r math o wasanaeth y dylem ei ddarparu i’n cymuned” – Dyna ymateb un bwrdd iechyd i’r ystadegau diweddaraf am amseroedd aros unedau brys.

Mae’r ystadegau yn dangos bod dau o ysbytai Bwrdd Iechyd y Gogledd yn parhau i fethu targedau, a bod hanner eu cleifion yn aros dros bedair awr i weld meddyg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, ni ddylai 95% o gleifion unedau brys orfod aros am fwy na phedair awr cyn cael eu trin.

Yn uned frys Ysbyty Maelor Wrecsam, dim ond 49.7% o gleifion sy’n cael eu trin o fewn pedair awr, ac yn Ysbyty Glan Clwyd, y Rhyl, mae’r ganran yn 52.9%.

Ffigur Ysbyty Maelor Wrecsam yw’r un isaf ar gyfrer unrhyw ysbyty yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau, ac mae’r ddau ysbyty wedi bod ymhlith y gwaethaf yn y wlad ers mis Ionawr.

“Haf hynod o brysur”

Mae Bwrdd Iechyd y Gogledd wedi beio “haf hynod o brysur” am fethu trin mwy o gleifion o fewn pedair awr, ac yn dweud y gwnaethon nhw weld “llawer iawn mwy o gleifion nag arfer” oherwydd y tywydd poeth.

Hefyd, mae’r corff yn dweud bod tua saith o bob deg claf wedi aros llai na phedair awr i weld meddyg yn ystod mis Awst.

Yn ôl targedau Llywodraeth Cymru, dylai bod 95% o gleifion unedau brys yn aros llai na phedair awr i weld meddyg.

Ymateb

“Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod nad dyma’r math o wasanaeth y dylem ei ddarparu i’n cymuned,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n staff a’n partneriaid i wella ein gwasanaethau yn ein hysbytai ac ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.”