Mae’r arwerthiant hyrddod mwya’ yn Ewrop yn dathlu deugain mlynedd o fodolaeth eleni.
Mae’r arwerthiant, sy’n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol yng Nghymru (NSA Cymru), wedi cael ei gynnal bron yn flynyddol ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ers 1978.
Yn ei anterth, bu’r digwyddiad yn denu 11,000 o hyrddod o 33 gwahanol frîd, ac mae tua £2.5m yn cael ei gyfnewid yn flynyddol yno.
Darn o hanes
Cafodd yr arwerthiant ei sefydlu diolch i weledigaeth a gwaith y diweddar Verney Pugh a George Hughes, a welodd yr angen am arwerthiant hyrddod aml-frîd i’r de o un yr NSA yn Kelso, yr Alban.
Suffolk oedd y brîd o hwrdd mwya’ cyffredin yn yr arwerthiannau cynnar yn Llanelwedd, ond erbyn hyn mae’n denu hyrddod o bob math, gan gynnwys rhai Texel a Charolais.
Mae’r arwerthiant hefyd wedi sicrhau ei le yn y llyfrau hanes, gyda hwrdd Texel o’r enw ‘Pant Wolf’, a gafodd ei fagu gan Llion Jones o Wynedd, yn cael ei werthu am bris o 18,000 gini yn 2016.
“Gyrrwr economaidd mawr”
“Mae’n yrrwr economaidd mawr yng nghanolbarth Cymru ac mae’r pwyslais ar safon ac archwiliad milfeddygol wedi bod o gymorth i wella safonau trwy’r diwydiant defaid,” meddai llefarydd ar ran NSA Cymru.
“Mae hefyd wedi’i gwneud hi’n haws i ffermwyr arbrofi heb orfod gwneud y trip hir i’r Alban, wrth i ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au weld cynnydd yn nifer y bridiau cyfandirol.
“Roedd modd iddyn nhw brynu hwrdd Texel neu Charolais yn ogystal â Suffolk a oedd gyda’r hwrdd mwya’ cyffredin ar y pryd.”