Mae’r Athro Laura McAllister wedi galw am drafodaeth ar hunaniaeth y Cymry ar drothwy Brexit, gan ddatgan bod ei hunaniaeth hithau’n syml ac mai Cymraes yw hi.

A hithau’n gyn-bêldroedwraig, mae’n cyfaddef iddi gael ei dylanwadu o ran ei hunaniaeth gan ymdeimlad o Gymreictod sy’n deillio o’r maes chwarae.

Mae’n dechrau ei herthygl ar wefan Wales Online drwy ddatgan bod “y sgwrs bresennol am hunaniaethau personol wedi gwneud i fi sylweddoli bod fy hunaniaeth fy hun yn eithaf syml”.

Wrth gyfeirio at wylio noson olaf y Proms ar y BBC, dywed iddi “deimlo fel twrist o dramor”.

Dywed, “Dw i yn sylweddoli bod fy hunaniaeth genedlaethol wedi’i ffurfio a’i mynegi yn bennaf drwy chwaraeon, ond mae chwifio baneri Jac yr Undeb yn y Proms (er bod ambell faner Ewropeaidd, Cymraeg neu Albanaidd wedi’u cymysgu i mewn) a Rule Britannia yn gwneud i fi deimlo fel twrist o dramor.”

Dywedodd fod gwylio’r Proms wedi codi “cwestiynau amlwg am ein hunaniaeth genedlaethol”.

Brexit

Wrth ddweud bod 52% o Gymry wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n awgrymu bod hynny wedi cyfleu’r ymdeimlad o “wrthod lle hanesyddol Cymru yn Ewrop, uno’n wirfoddol mewn gwirionedd â Lloegr, canlyniad neo-goloneiddio, a chanu cloch marwolaeth Cymru hithau”.

Dywed y bydd proses Brexit, erbyn iddi ddod i ben fis Mawrth y flwyddyn nesaf, wedi esgor ar “emosiynau o bwll y galon ynghylch pwy ydyn ni, a’n hymdeimlad ehangach ohonon ni ein hunain a’n perthynas â gweddill y byd”.

Dadleua bod yr ymdeimlad hwn yn codi o “fod yn gyndyn o drafod yn iawn pwy ydyn ni mewn gwirionedd a sut mae ein cenedl wedi newid”.

Ymhen wyth mis, meddai, bydd Cymru yn rhan o “undeb ddarfodedig o bedair cenedl dra gwahanol” ac yn “wynebu argyfwng dirfodol” gan na fydd ganddi “ond ychydig o reolaeth dros y ddadl”.

‘Diogi’

Wrth i Brydain chwilio am hunaniaeth newydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, meddai, mae Cymru’n “euog o fod ychydig yn ddiog ynghylch ein hunaniaeth Gymreig, neu o ddallineb penstiff hyd yn oed”.

“Mae yna ymdeimlad y bydd Cymru yma am byth – ond a fydd hi go iawn?” gofynna wedyn.

Tra bod y Cymry, ar y cyfan yn barod i fynegi eu Cymreictod ym myd y campau, meddai, pleidleisiodd llai na hanner y Cymry yn etholiadau diwetha’r Cynulliad.

“Felly faint o ymrwymiad sydd ei angen er mwyn bod yn Gymro/aes? Faint o’n hunaniaeth Gymreig ydyn ni’n hapus â hi ac ym mha ffurfiau os yw hi am oroesi?”

Cenedl ranedig?

Dywed fod yna “berygl go iawn” yn sgil Brexit y gallai Cymru wynebu dyfodol “heb gynghreiriaid naturiol, heb drafodaeth wleidyddol amlwg ac efallai hyd yn oed heb ein hiaith a’n sefydliad cenedlaethol democrataidd ein hunain”.

Dywed fod prinder cyfryngau ar y we yn golygu mai ychydig iawn a wyddom “am fywydau ein gilydd a’n profiadau gwahanol”.

“Does dim syndod, felly, ein bod yn teimlo fel cenedl â mwy o raniadau na chysylltiadau. O wneud yr hyn a wnaethom, mewn gwirionedd, yn y cyfnod cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, gallem ein cael ein hunain yn rhan o farwolaeth Cymreictod.”

I ble’r awn ni o fan hyn?

Wrth awgrymu’r hyn y dylem ei wneud fel cenedl i ddechrau trafod Cymreictod, awgryma Laura McAllister fod ychydig iawn o bobol “yn gweld gwrthdaro rhwng eu galw eu hunain yn Gymry ac yn Brydeinig”.

“Bydd rhai yn siarad am ‘y wlad yn ei chyfanrwydd’ ac rwy’n ofni nad Cymru sydd ganddyn nhw mewn golwg.”

Dim ond ym maes chwaraeon y mae llai o wrthdaro rhwng Cymreictod a Phrydeindod, meddai, ac felly “nid yw’n syndod fod pêl-droed wedi dod yn fan ar gyfer dadl eithaf radical ar Gymreictod”.

Wrth roi cic i’r Cymry, dadleua fod gennym “feddylfryd ymostyngol a thaeogaidd” oherwydd bod gennym hanes o “goncro a chymhathu”.

Ac wrth ddadlau pam fod chwaraeon mor bwysig wrth drafod hunaniaeth, ychwanega, “Ychydig iawn o bencampwyr sydd gennym sy’n siarad ar ran Cymru fel cenedl ac sy’n cyrraedd ei holl gymunedau, a dyna pam ein bod yn glynu wrth ein sêr chwaraeon gydag emosiwn sy’n ymylu ar fod yn ddespret.”