Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y byddan nhw’n rhoi £23.5 miliwn yn rhagor i Gymru, er mwyn ariannu codiad cyflog athrawon.

Daw hyn wedi i’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, dynnu sylw at y ffaith bod arian wedi ei ddarparu yn Lloegr ond nid yng Nghymru.

Er bod addysg wedi’i ddatganoli, dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gyfrifol am gyflogau athrawon ar hyn o bryd, ac felly lle San Steffan yw darparu’r arian.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cadarnhau y bydd athrawon yn derbyn £8.7 miliwn yn 2018/19 a £14.8 miliwn yn 2019/20.

Tŷ’r Cyffredin

Yn siarad yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (Medi 12) tynnodd Aelod Seneddol Ceredigion sylw at y mater.

“Gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol tros Addysg [Damian Hinds] gyhoeddi gwobr tâl i athrawon yn ddiweddar,” meddai. “A dyw’r cyfrifoldeb hwnnw heb ei ddatganoli.

“Mae’r Llywodraeth wedi amlinellu sut y byddan nhw’n ariannu’r wobr i athrawon yn Lloegr, ond dydyn nhw heb wneud hynny yng Nghymru.

“Felly fydd y Prif Weinidog yn mynd i’r afael â’r gwall yma, a sicrhau nad athrawon a disgyblion o Gymru sy’n rhaid talu’r bil?”

Ymatebodd y Prif Weinidog, Theresa May, trwy ddweud: “Bydd y Trysorlys yn amlinellu hynna cyn hir.”