Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn dweud ei bod yn “siom enfawr” na fydd Neuadd Pantycelyn yn ailagor ym mis Medi 2019.

Yn ôl Prifysgol Aberystwyth, mae’r “heriau” o ailddatblygu’r adeilad, sydd wedi bod yn llety i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol ers 1974, yn golygu na fyddan nhw’n gallu ailagor erbyn y flwyddyn nesa’, fel yr oedden nhw’n gobeithio ei wneud.

Yn hytrach, mae’r targed ar gyfer ailagor wedi cael ei fwrw ymlaen i’r flwyddyn ddilynol, gyda’r brifysgol yn gobeithio croesawu myfyrwyr yno ym mis Medi 2020.

Mae disgwyl i’r gwaith o adnewyddu’r adeilad gostio £12m, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi addo £5m i’r prosiect.

Oedi

“Mae’r gwaith uchelgeisiol o adnewyddu neuadd breswyl Pantycelyn yn un o brif brosiectau cyfalaf y Brifysgol ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gyflawni o fewn yr amserlen a fwriadwyd,” meddai Prifysgol Aberystwyth mewn datganiad.

“Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg yn ystod trafodaethau manwl gyda phenseiri a chontractwyr bod yr heriau o ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn yn golygu na fydd modd cyflawni’r nod gwreiddiol o ailagor yr adeilad ym mis Medi 2019.

“Er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud gyda gofal, i safon uchel ac o fewn y gyllideb bydd y myfyrwyr cyntaf bellach yn symud i’w hystafelloedd ym mis Medi 2020.”

“Siom enfawr”

“Mae’r newyddion yn siom enfawr i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. A gan fod pawb wedi disgwyl dychwelyd i’r neuadd ym mis Medi 2019,” meddai Anna Wyn Jones, Llywydd UMCA.

“Ond rydan ni am bwysleisio bod y neuadd yn mynd i ail-agor ar ei newydd wedd ac, yn y cyfamser, mae bwrlwm bywyd Cymraeg Aber yn parhau.

“Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn cael symud i mewn ym mis Medi 2020, ac fe fyddwn ni fel undeb yn gweithio i’r eithaf gyda’r Bwrdd Prosiect a’r Brifysgol i sicrhau fod hyn yn digwydd.”