Naomi Rees, merch 16 oed o Rydfelen ger Pontypridd, wedi cael ei darganfod yn ddiogel bron i fis ers iddi fynd ar goll o’i chartref.

Mae dyn 20 oed wedi’i arestio mewn perthynas â’i diflaniad ar Awst 15.

Ar y pryd, dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu ei bod hi gyda Tomas Baker, 20, o Tamworth yn Swydd Stafford.

Mae hi bellach wedi dychwelyd at ei theulu, ac mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r De a rhieni Naomi Rees wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth.